Mi godais i fyny fy llaw, Ymleddais, enillais y dydd! Fy holl waredigion a ddaw, A'm caethion a roddir yn rhydd; Enillais fath goncwest trwy waed, Mae genyf lywodraeth mor fawr, Hyd eithaf trigfanau fy Nhad, Mae'n cyraedd o'r nefoedd i'r llawr. Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn, Pa dafod all osod i maes, Mor felus, mor helaeth, mor llawn, Mor gryfed ei gariad a'i ras? Afonydd sy'n rhedeg mor gryf, Nas dichon i bechod na bai Wrthsefyll yn erbyn eu llif, A'u llanw ardderchog didrai. Fel fflamiau angherddol o dân Yw cariad f'Arglwydd o hyd; Fe losgodd bob rhwystrau o'i flaen, Fe yfodd o'r afon i gyd; Ymaflodd mewn dyn ar y llawr, Fe'i dygodd â'r Duwdod yn un; Y pellder oedd rhyngddynt oedd fawr, Fe'i llanwodd â'i haeddiant ei hun.John Williams (Ioan ab Gwilym) 1728-1806 [Mesur: MHD 8888D] gwelir: Pa feddwl pa 'madrodd pa ddawn? Rhan I - Pwy welaf o Edom yn dod? |
I lifted up my hand, I seized, I won the day; All my delivered ones will come, And my captives to be set free; I won such a conquest through blood, I have such a great authority, Right unto the dwellings of my Father, It reaches from the heavens to the earth. What thought, what report, what gift, What tongue can set forth, How sweet, how broad, how full, How strong are his love and his grace? Rivers which are running so strongly, No can sin or fault is able To withstand against their flow, And their excellent, unebbing flood. Like intense flames of fire Is the love of my Lord still; Ite burned every obstacle before it, It drank all of the river: It cast itself in man down, It brought him and the Godhead to be one; The distance which was between them was great, It flooded it with its own merit.tr. 2016 Richard B Gillion |
|